Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
26 Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5669
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwahoddodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, wyth Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at ddibenion yr eitem hon ar y cyd. Roedd 31 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Siambr ar gyfer yr eitem.
NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:
a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac
c) sbwriel a gwastraff plastig.
2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.
3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.
Datganiad -Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon ar ddiwedd y ddadl.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Am 14.15, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8-10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Cafodd cwestiynau 2, 8 a 9 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Russell George: (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt?
Dechreuodd yr eitem am 16.26
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad fel Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Llysywen Ewropeaidd.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn coffáu 125 mlynedd ers Trychineb Glofa Albion (23Mehefin 1894)
Dechreuodd yr eitem am 16.30
NDM7109 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dawn Bowden (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM7099 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant arian cyhoeddus;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
34 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;
2. Yn croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
18 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;
2. Yn croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.
Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
19 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.21
Ni chyflwynwyd cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.23
NNDM7103 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i Ddadl Fer Dawn Bowden gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.23
NNDM7098 - Dawn Bowden (Merthyr Tydfil and Rhymney)
Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru.
Gwneud ymrwymiad cenedlaethol i’r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi’i hategu gan gyfraith, i gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.47
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2019